GwynethDAVIES(Cyn-Brifathrawes, Ysgol Caerwedros)
Hunodd yn dawel yn 80 oed, ar 9ed Ionawr, yn Ysbyty Glangwili.
Gwyneth, gwraig ffein ac ymroddgar John, mam dyner Non, mam-yng-nghyfraith hoffus Andy, mamgu ofalus a chariadus Tomos a William, ffrind da i lawer.
Gwasanaeth cyhoeddus o ddiolch am ei bywyd, yng Nghapel Seion, Llandysul am 11:45yb ar 29ain Ionawr, yna i ddilyn i'r teulu a ffrindiau yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth am 1:45yp.
Cyfraniadau er cof, os dymunir, tuag at Ward Padarn, sieciau yn daladwy i "Cynghrair Cyfeillion Ysbyty Glangwili"
trwy law W.D. Thomas a'i Feibion, Trefnwyr Angladdau, Heol Pencader, Llandysul. SA44 4AE. Ffôn: (01559) 363537 / 362563
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Gwyneth